Dim ond chwaraewyr Warriors, Caeredin a Glasgow sydd ar gael ar gyfer yr ornest yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn (Tachwedd 3), sy’n cael ei chynnal y tu allan i’r ffenest ryngwladol,

Mae hynny’n golygu mai pedwar chwaraewr yn unig sydd ar gael o’r fuddugoliaeth dros yr Ariannin ym mis Mehefin.

Stuart McInally, bachwr 28 oed Caeredin, fydd yn arwain y tîm, a hynny am yr ail waith yn unig, a’r tri arall yw Allan Dell yn y rheng flaen, y maswr Adam Hastings a’r cefnwr Blair Kinghorn.

Mae pum chwaraewr o Glasgow yn dychwelyd i’r tîm – yr asgellwyr Tommy Seymour a Lee Jones, y canolwyr Huw Jones ac Alex Dunbar, a’r mewnwr Ali Price.

Yn y pac, mae’r clo Jonny Gray, y prop Willem Nel a’r chwaraewyr rheng ôl Hamish Watson a Ryan Wilson i gyd yn dychwelyd, ynghyd â’r clo Ben Toolis a’r chwaraewr rheng ôl Jamie Ritchie.

Mae’r olwr o Gaeredin, Darcy Graham yn dechrau ar y fainc, ac fe allai ennill ei gap cyntaf dros ei wlad.