Ulster 36–18 Dreigiau
Colli fu hanes y Dreigiau wrth iddynt deithio i Ravenhill i wynebu Ulster yn y Guinness Pro14 nos Wener. Sgoriodd y tîm cartref bump cais mewn buddugoliaeth gyfforddus.
Rhoddodd cais yr un i Henry Speight a David Shanahan y tîm cartref ar y blaen cyn i’r Dreigiau daro nôl gyda chais Huw Taylor.
Ulster a gafodd y gair olaf cyn yr egwyl serch hynny wrth i Michael Lowry groesi am eu trydydd hwy.
Diogelodd Stuart McCloskey’r fuddugoliaeth a’r pwynt bonws i’r Gwyddelod gyda dau gais yn yr ail hanner ac er i Jarryd Sage groesi i’r Dreigiau hefyd, cais cysur yn unig a oedd hwnnw, 36-18 y sgôr terfynol.
Mae tymor anodd arall i’r Dreigiau yn parhau felly wrth iddynt aros yn chweched yn nhabl cyngres B y Pro14.
.
Ulster
Ceisiau: Henry Speight 11’, David Shanahan 23’, Michael Lowry 39’, Stuart McCloskey 49’, 79’
Trosiadau: Johnny McPhillips 12’, 24’, 40’, 80’
Cic Gosb: Johnny McPhillips 7’
.
Dreigiau
Ceisiau: Huw Taylor 31’, Jarryd Sage 67’
Trosiad: Jason Tovey 32’
Ciciau Cosb: Jason Tovey 16’, 38’