Caerlŷr 45–27 Scarlets

Cafwyd perfformiad pum seren gan Gaerlŷr wrth iddynt groesawu’r Scarlets i Welford Road yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop nos Wener.

Sgoriodd y Saeson bum cais wrth ennill gêm hynod gyfforous yn erbyn yr ymwelwyr o orllewin Cymru, sydd bellach wedi colli eu dwy gêm gyntaf yn Ewrop y tymor hwn.

Hanner Cyntaf

Dechreuodd y tîm cartref ar dân gyda’r clo, Harry Wells, yn hyrddio drosodd am y cais agoriadol.

Llwyddodd George Ford gyda’r trosiad cyn ychwanegu cic gosb i ymestyn mantais Caerlŷr i ddeg pwynt o fewn deg munud.

Yn ôl y daeth y Scarlets gyda chais Gareth Davies a phum pwynt o droed Leigh Halfpenny yn unioni’r sgôr.

Ymatebodd Caerlŷr gyda chais Guy Thompson, y blaenasgellwr yn gorffen symudiad tîm da. Nid oedd trosiad y tro hwn a dim ond dau bwynt a oedd yn gwahanu’r ddau dîm wrth droi diolch i gic gosb arall gan Halfpenny, 15-13 y sgôr.

Ail Hanner

Adferodd Ford y pum pwynt o fantais gyda chic gosb arall yn gynnar yn yr ail hanner cyn i Sione Kalamafoni groesi am drydydd cais y tîm cartref, yn hyrddio drosodd wedi gwaith da Manu Tuilagi, 25-13 wedi trosiad Ford.

Caerlŷr a oedd yn rheoli bellach ond roedd y Scarlets yn ôl yn gêm o fewn dim diolch i gais yn erbyn llif y chwarae, Gareth Davies yn creu y tro hwn, i Steff Evans.

Roedd Davies yn ei chanol hi eto wrth i’r Cymry fynd ar y blaen am y tro cyntaf yn y gêm toc cyn yr awr, y mewnwr yn creu i Blade Thompson gyda chymorth Ken Owens, 25-27 wedi trosiad Halfpenny.

Ychydig funudau’n unig a barodd mantais y Scarlets serch hynny cyn i Tuilagi groesi am bedwerydd cais ei dîm i sicrhau pwynt bonws o leiaf i’r Saeson.

Roedd Johan Holmes yn meddwl ei fod wedi diogelu’r fuddugoliaeth gyda chais ond cafodd ymdrech yr asgellwr a gafodd ei enwi yng ngharfan Cymru’r wythnos hon ei wrthod gan y dyfarnwr fideo.

Ond ni chafodd hynny fawr o ddylanwad ar y canlyniad yn y diwedd wrth i Gaerlŷr ddiogelu’r fuddugoliaeth yn y chwarter awr olaf gyda chais i Johnny May ac wyth pwynt arall o droed Ford.

Mae talcen caled bellach yn wynebu Bois y Sosban yng ngrŵp 4 wedi iddynt golli am yr ail wythnos yn olynol. Un cysur i Wayne Pivac fydd y ffaith i’w dîm golli eu dwy gêm agoriadol y tymor diwethaf hefyd cyn mynd ymlaen i gyrraedd y rownd gynderfynol.

.

Caerlŷr

Ceisiau: Harry Wells 2’, Guy Thompson 36’, Sione Kalamafoni 46’, Manu Tuilagi 63’, Johnny May 71’

Trosiadau: George Ford 8’, 47’, 64’, 73’

Ciciau Cosb: George Ford 2’, 44’, 68’, 76’

.

Scarlets

Ceisiau: Gareth Davies 14’, Steff Evans 52’, Blade Thompson 59’

Trosiadau: Leigh Halfpenny 15’, 52’, 60’

Ciciau Cosb: Leigh Halfpenny 28’, 39’