Daw’r cyfle heno i weld asgellwr dan 20 Cymru, Ioan Nicholas, yn chwarae ei gêm gyntaf i’r Scarlets yn Ewrop.

Mae Ioan Nicholas yn gefnder i’r dyfarnwr Nigel Owens, ac yn cymryd lle Johnny McNicholl a gafodd anaf ar ddiwedd y gêm wythnos diwethaf, pan gollodd Bois y Sosban gartref 14-13 yn erbyn Racing 92.

Heno mae’r Scarlets oddi cartref yng Nghaerlŷr yn eu hail gêm yng Nghwpan Pencampwyr Rygbi Ewrop.

Caerlŷr yw’r ffefrynnau gydag wyth buddugoliaeth yn eu deg gêm ddiwethaf yn erbyn y Scarlets.

Ac mae hyfforddwr y Scarlets, Wayne Pivac, wedi gorfod ymdopi gydag anafiadau.

Ni fydd Rhys Patchell yn dechrau ar ôl cael anaf i’w ben yn gynharach ym mis Hydref, sy’n golygu bod Dan Jones yn safle’r maswr ar gyfer yr ornest yn erbyn Caerlŷr.

Tom Price sy’n camu mewn i’r ail reng lle Jake Ball, ac mae Josh McLeod yn dechrau yn lle Ed Kennedy ar yr asgell oherwydd ei berfformiad sâl yn erbyn Racing 92.

Mae’r cefnwyr Leigh Halfpenny, Jonathan Davies, Steff Evans, Hadleigh Parkes a Gareth Davies i gyd yn y tîm.

Scarlets

L Halfpenny; I Nicholas, J Davies, H Parkes, S Evans; D Jones, G Davies; W Jones, K Owens, S Lee, T Price, D Bulbring, B Thomson, J Macleod, W Boyde.

Caerlŷr

Mae asgellwr Lloegr, Jonny May yn dychwelyd wedi anaf wrth i Gaerlŷr newid dau o’r tîm ar ôl colli i Ulster yng Nghwpan Pencampwyr Rygbi Ewrop yr wythnos ddiwethaf.

Mae’r Cymro Jonah Holmes, a gafodd ei alw i garfan ryngwladol Cymru am y tro cyntaf yr wythnos hon, yn parhau yn safle’r cefnwr.

Yn yr ail reng mae Will Spencer yn cymryd lle Mike Williams sy’n symud i’r asgell.

Tîm – J Holmes; J May, M Tuilagi, K Eastmond, J Olowofela; G Ford, B Youngs; G Bateman, T Youngs (capt), D Cole, H Wells, W Spencer, M Williams, G Thompson, S Kalamafoni.