Mae’r asgellwr Jonah Holmes wedi dweud ei fod e ar ben ei ddigon ar ôl cael ei alw i garfan rygbi Cymru ar gyfer gemau’r hydref.

Fe fydd Cymru’n herio’r Alban, Awstralia, Tonga a De Affrica fis nesaf.

Mae’r asgellwr, sy’n enedigol o Stockport, wedi’i ddewis am y tro cyntaf ynghyd â’i gyd-asgellwr Luke Morgan o’r Gweilch. Nhw yw’r unig wynebau newydd i’w cynnwys.

Sgoriodd Jonah Holmes ddeg cais mewn 11 o gemau i’r Leicester Tigers y tymor diwethaf, ac mae’n gymwys i gynrychioli Cymru oherwydd mai Cymraeg oedd ei fam-gu.

Mae’n mynnu nad yw’n “golygu dim hyd nes y galla i brofi fy hun ar y llwyfan rhyngwladol”, ond mae’n dweud ei bod yn “anhygoel cael y cyfle”.

“Bydda i’n mynd i ffwrdd ddydd Sul ac mae angen i fi roi fy mhen i lawr a cheisio profi wrth ymarfer beth alla i ei wneud,” meddai.

“Dw i am fod yn rhan o’r cyfan mor fuan â phosib, a dw i’n edrych ymlaen at yr her.”

Luke Morgan

Mae Luke Morgan, yn y cyfamser, yn dweud iddo gael sioc o gael ei ddewis i’r garfan lawn, ar ôl body n flaenllaw yn y tîm saith bob ochr.

Yr asgellwr sy’n dal y record i Gymru am y nifer o geisio mewn gemau saith bob ochr. Mae e wedi sgorio pedwar cais mewn pum gêm i’r Gweilch y tymor hwn.

“Mae’n rywbeth ry’ch chi’n breuddwydio amdano fe’n fachgen, felly mae cael y cyfle hwnnw’n beth anhygoel.

“Yn amlwg, dw i wrth fy modd o gael fy newis, felly bydd rhaid i ni weld beth sy’n digwydd dros yr wythnosau i ddod.

“Dw i wedi cael rhediad da o gemau, ond mae’n sioc fawr i fi.”