Lyon 21–30 Gleision

Cafodd y Gleision y dechrau perffaith i’w hymgyrch yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop gyda buddugoliaeth oddi cartref yn erbyn Lyon brynhawn Sul.

Robinson, Williams ac Anscombe a sgoriodd y ceisiau holl bwysig yn y Stade de Gerland.

Lyon a ddechreuodd orau gyda chais cynnar Loann Goujon eu rhoi ar y blaen cyn i drosiad a chic gosb gan Lionel Beauxis ymestyn y fantais i ddeg pwynt erbyn hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf.

Yn ôl y daeth y Gleision serch hynny gyda dau gais mewn tri munud; Olly Robinson yn sgorio’r cyntaf cyn i Tom Williams blymio drosodd yn y gornel wedi bylchiad gwreiddiol Ellis Jenkins.

Llwyddodd Gareth Anscombe gyda’r ddau drosiad i roi’r ymwelwyr bedwar pwynt ar y blaen ond adferodd y Ffrancwyr eu mantais cyn yr egwyl gyda dwy gic gosb o droed Beauxis, 16-14 y sgôr wrth droi.

Ciciodd Anscombe y Gleision yn ôl ar y blaen gyda dwy gic gosb yn hanner cyntaf yr ail hanner, a moment o athrylith gan y cefnwr a enillodd y gêm i’w dîm toc wedi’r awr hefyd, y cais holl bwysig yn deillio o rediad unigol gwych o’i hanner ei hun.

Trosodd Anscombe ei gais ei hun i ymestyn y fantais i un pwynt ar ddeg, gan olygu mai cais cysur yn unig a oedd ymdrech hwyr Pierre-Louis Barassi i’r tîm cartref.

.

Lyon

Ceisiau: Loann Goujon 5’, Pierre-Louis Barassi 79’

Trosiad: Lionel Beauxis 6’

Ciciau Cosb: Lionel Beauxis 13’, 36’, 40’

.

Gleision

Ceisiau: Olly Robinson 29’, Tom Williams 32’, Gareth Anscombe 63’

Trosiadau: Gareth Anscombe 31’, 32’, 64’

Ciciau Cosb: Gareth Anscombe 44’, 58’, 80’