Gweilch 27–0 Pau

Cafodd y Gweilch ddechrau da i’w hymgyrch yn y Cwpan Her gyda buddugoliaeth bwynt bonws yn erbyn Pau ar y Liberty brynhawn Sadwrn.

Sgoriodd y mewnwr ifanc, Harri Morgan, gais gyda symudiad olaf y gêm i sicrhau’r dechrau perffaith i dymor Ewropeaidd ei dîm.

Os mai chwaraewr ifanc a orffennodd bethau, hen law a ddechreuodd y sgorio gyda James Hook yn croesi yn y munudau agoriadol.

Trosiad Sam Davies a chic gosb o droed Hook a oedd unig bwyntiau arall yr hanner cyntaf, 10-0 y sgôr wrth droi.

Sgoriodd George North ail gais y tîm cartref yn gynnar yn yr ail gyfnod cyn i ymdrech unigol dda’r asgellwr, Luke Morgan, ymestyn y fantais toc cyn yr awr.

Gyda’r fuddugoliaeth yn ddiogel, pwynt bonws a oedd targed nesaf y Gweilch ac fe ddaeth hwnnw yn yr eiliadau olaf wrth i’r mewnwr dwy ar bymtheg oed, Harri Morgan, sgorio’r pedwerydd cais.

Mae’r canlyniad yn rhoi’r Cymry ar frig grŵp 2, tan i Stade Francais a Caerwrangon wynebu ei gilydd yn hwyrach nos Sadwrn o leiaf.

.

Gweilch

Ceisiau: James Hook 7, George North 47’, Luke Morgan 57’, Harri Morgan 80’

Trosiadau: Sam Davies 8’, JamesHook 48’

Cic Gosb: James Hook 37’