Timisoara Saracens 17–54 Dreigiau

Cafodd y Dreigiau ddechrau da i’w hymgyrch yng Nghwpan Her Ewrop gyda buddugoliaeth yn erbyn Timisoara Saracens brynhawn Sadwrn.

Sgoriodd y Cymry wyth cais mewn buddugoiaeth gyfforddus yn y Stadionul Dan Paltinisanu yn Rwmania.

Sicrhaodd yr ymwelwyr bwynt bonws gyda phedwar cais cyn yr egwyl, dau i Elliot Dee ac un yr un i Leon Brown a Dafydd Howells.

Dilynodd pedwar cais arall i’r Cymry wrth i’r fuddugoliaeth droi’n grasfa yn yr ail hanner; Lewis Evans, Ollie Griffiths a Rhodri Davies i gyd yn croesi a’r dyfarnwyr yn dynodi un cais cosb.

Mae’r fuddugoliaeth swmpus yn rhoi’r Dreigiau ar frig grŵp 1, ond gyda Northampton a Clermont yn yr un grŵp, mae gemau anos yn eu haros.

.

Timisoara Saracens

Ceisiau: Jack Umaga 23’, Marius Simionescu 58’

Trosiadau: Luke Samoa 25’, 59’

Cic Gosb: Luke Samoa 3’

Cerdyn Melyn: Valentin Poparlan 67’

.

Dreigiau

Ceisiau: Elliot Dee 11’, 39’, Leon Brown 33’, Dafydd Howells 40’, Leiws Evans 51’, Cais Cosb 69’, Ollie Griffiths 72’, Rhodri Davies 80’

Trosiadau: Josh Lewis 12’, 34’, 40’, 52’, 73’, 80’