Scarlets 20–17 Gweilch

Y Scarlets a aeth â hi mewn gêm ddarbi agos rhyngddynt a’r Gweilch yn y Guinness Pro14 brynhawn Sadwrn.

Roedd y tîm cartref ar ei hôl hi ar yr egwyl ar Barc y Scarlets cyn taro nôl i’w hennill hi gyda chais Rhys Patchell a chicio cywir Leigh Halfpenny.

Daeth cais cyntaf y gêm wedi chwarter awr o chwarae, Johnny McNicholl yn sgorio wedi bylchiad Kieron Fonotia yn erbyn ei gyn glwb, 7-0 wedi trosiad Halfpenny.

Cafodd y Gweilch gyfnod gwell wedi hynny ac roedd y sgôr yn gyfartal chwarter awr yn ddiweddarach wedi i Sam Davies drosi cais y canolwr, Cory Allen.

Ni fu rhaid i’r ymwelwyr aros yn hir am eu cais nesaf wrth i George North groesi yn y gornel yn erbyn ei gyn glwb yntau. Bu rhaid aros i’r dyfarnwr teledu ganiatáu’r sgôr ond roedd y Gweilch ar y blaen am y tro cyntaf yn y gêm.

Dau bwynt yn unig a oedd ynddi wrth droi serch hynny diolch i gic olaf yr hanner, tri phwynt o droed Halfpenny, 10-12 y sgôr ar yr hanner.

Rhoddodd cic gosb arall gan Halfpenny Fois y Sosban ar y blaen ddeg munud wedi’r egwyl ac roeddynt ar y blaen toc cyn yr awr wedi i’r cefnwr drosi cais y maswr, Patchell.

Cafwyd ymateb da gan y Gweilch wrth i Luke Morgan blymio drosodd yn y gornel chwith ar ôl cael ei ryddhau gan Justin Tipuric a thri phwynt yn unig a oedd ynddi gyda deunaw munud i fynd.

Ond roedd hynny’n ddigon o fantais i’r Scarlets wrth i’r tîm cartref ddal eu gafael tan y diwedd, 20-17 y sgôr terfynol.

Mae’r canlyniad yn gadael y Gweilch yn ail yn nhabl cyngres A y Pro14 ac yn codi’r Scarlets i’r ail safle yng nghyngres B.

.

Scarlets

Ceisiau: Johnny McNicholl 16’, Rhys Patchell 57’

Trosiadau: Leigh Halfpenny 18’, 58’

Ciciau Cosb: Leigh Halfpenny 40’, 50’

.

Gweilch

Ceisiau: Cory Allen 30’, George North 33’, Luke Morgan 62’

Trosiad: Sam Davies 31’