Glasgow 29–13 Dreigiau

Colli fu hanes y Dreigiau wrth iddynt deithio i Scotstoun i herio Glasgow yn y Guinness Pro14 nos Sadwrn.

Croesodd y tîm cartref am bum cais mewn buddugoliaeth gyfforddus, dau o’r rheiny i Lee Jones ac un yr un i Keeble, Huw Jones a Dunbar.

Daeth y cyntaf o’r rheiny wedi dim ond pum munud wrth i’r prop, Oli Kebble hyrddio drosodd.

Cadwodd Arwel Robson y Dreigiau yn y gêm gyda dwy gic gosb wedi hynny a bu rhaid i Glasgow aros tan ddau funud cyn yr egwyl am eu hail gais, Lee Jones yn sgorio.

Ychwanegodd yr asgellwr ei ail yn gynnar yn yr ail hanner wedi dadlwythiad taclus Alex Dunbar. Arhosodd y Dreigiau yn y gêm serch hynny gan ymateb yn gyflym gyda chais i Adam Warren.

Sicrhaodd Glasgow y pwynt bonws toc cyn yr awr gyda chais unigol da Huw Jones ac roedd buddugoliaeth y tîm cartref yn gwbl ddiogel pan ychwanegodd Dunbar bumed cais ddau funud o’r diwedd.

.

Glasgow

Ceisiau: Oliver Kebble 5’ Lee Jones 38’, 42’, Huw Jones 55’, Alex Dunbar 78’

Trosiadau: Adam Hastings 6’, 79’

.

Dreigiau

Cais: Adam Warren 46’

Trosiad: Josh Lewis 47’

Ciciau Cosb: Arwel Robson 8’, 21’