Scarlets 54–14 Southern Kings

Sgoriodd y Scarlets wyth cais wrth roi crasfa i’r Southern Kings yn y Guinness Pro14 nos Sadwrn.

Croesodd y tîm cartref am wyth cais mewn buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn yr ymwelyr o Dde Affrica ar Barc y Scarlets.

Hon a oedd gêm gyntaf Jonathan Davies wedi bron i flwyddyn allan gydag anaf ac fe greodd canolwr Cymru gryn argraff gan sgorio’r cais agoriadol wedi deg munud yn dilyn bylchiad gwreiddiol Rhys Patchell.

Creodd Davies yr ail i’w gyd ganolwr wedi hynny, Paul Asquith yn gorffen yn dda gyda ffugiad taclus. Davies ei hun a gafodd dryddydd y tîm cartref chwarter awr cyn yr egwyl, yn hollti trwy’r amddiffyn i dirio o dan y pyst.

Ond daeth dau gais i asgellwr yr ymwelwyr, Bjorn Basson, o bobtu i hwnnw ac roedd y Kings yn y gêm ar yr egwyl, 21-14 y sgôr wrth droi.

Roedd Davies yn rhy dda i amddiffyn y Kings ac fe rwygodd trwyddynt eto yn gynnar yn yr ail hanner i greu’r pedwerydd cais i Ioan Nicholas ar yr asgell chwith.

Gyda’r pwynt bonws yn ddiogel, fe reolodd Bois y Sosban weddill y gêm gan sgorio pedwar cais arall cyn y diwedd. Daeth y cyntaf o’r rheiny i’r blaenasgellwr addawol, Dan Davies, cyn i’r eilyddion; Simon Gardiner, Steff Evans a Kieran Hardy ymuno yn yr hwyl.

54-14 y sgôr terfynol felly ond bydd tasg anoddach yn aros Wayne Pivac a’i dîm yr wythnos nesaf wrth iddynt groesawu’r Gweilch i Barc y Scarlets.

.

Scarlets

Ceisiau: Jonathan Davies 10’ 25’, Paul Asquith 16’, Ioan Nicholas 43’, Dan Davis 59’, Simon Gardiner 66’, Steff Evans 73’, Kieran Hardy 80’

Trosiadau: Rhys Patchell 11’, 17’, 25, 44’, 60’, Angus O’Brien 74’, 80’

.

Southern Kings

Ceisiau: Bjorn Basson 21’, 34’

Trosiadau: Masixole Banda 21’, 35’

Cerdyn Melyn: Bjorn Basson 77’