Llwyddodd Sam Davies i sicrhau buddugoliaeth glir i’r Gweilch ddoe wrth sgorio 17 o bwyntiau yn y gêm gartref yn erbyn Benneton yn y Guinness PRO14.

Y sgôr derfynol oedd y Gweilch 27, Benetton 10.

Roedd y Gweilch wedi gwneud 11 o newidiadau i’r tîm a gollodd yn erbyn Munster yr wythnos ddiwethaf, gyda Justin Tipuric, Alun Wyn Jones, George North a Dan Lydiate yn ôl ar y cae.

Daeth llwyddiant gyda chais yr un gan Dan Evans, Justin Tipuric a Sam Davies, a giciodd ddwy gic gosb a thri throsiad yn ogystal.

Doedd popeth ddim wedi mynd o blaid y tîm cartref, fodd bynnag. Sgoriodd Abraham Steyn gais haeddiannol i’r ymwelwyr yn yr ail hanner, cafodd Justin Tipuric ei anfon oddi ar y cae, a methiant oedd ymdrech y Gweilch i ennill pwynt bonws ym munudau olaf y gêm.