Bydd y blaenasgellwr Ellis Jenkins yn chwarae ei ganfed gêm yng nghrys y Gleision heno yn erbyn Munster ar Barc yr Arfau heno.

Mae saith newid i dîm y Gleision ar gyfer gornest galed yn erbyn Gwyddelod Munster, un o dimau gorau’r Pro14.

Elis Jenkins yw un o’r newidiadau hynny, wrth iddo ddychwelyd i’r cae i fod yn gapten ar ôl cael gorffwys yn lle chwarae yn erbyn Zebre yn yr Eidal yr wythnos ddiwethaf.

Mae’n cyfuno yn y rheng ôl gyda Josh Navidi a Nick Williams, sydd hefyd yn dychwelyd i’r garfan.

Bydd Josh Trunbull yn yr ail reng wedyn, a bydd Rhys Gill a Dimitri Arhip yn y rheng flaen gyda Kristian Dacey yn safle’r bachwr.

Bydd Jarrod Evans yn cychwyn yn safle’r maswr, tra bo Gareth Anscombe yn gefnwr.

 “Her fawr”

“Mae wedi bod yn ddechrau anodd i’r tymor, ond rydym yn benderfynol o roi perfformiad da fel y bydd ein cefnogwyr yn falch ohonom ni nos Wener,” meddai John Mulvihill.

“Mae Munster yn dîm o safon ac fe fydd yn her fawr. Ond rydym hefyd yn ôl ym Mharc yr Arfau ac angen cychwyn gwell i’n tymor.”

Y tîm: Gareth Anscombe, Blaine Scully, Willis Halaholo, Rey Lee-lo, Jason Harries; Jarrod Evans, Tomos Williams,; Rhys Gill, Kristian Dacey, Dimitri Arhip, George Earle, Josh Turnbull, Josh Navidi, Ellis Jenkins, Nick Williams.

Ar y fainc: Kirby Myhull, Rhys Carre, Scott Andrews, Macauley Cook, Olly Robinson, Lloyd Williams, Garyn Smith, Mathew Morgan.