Mae’r cyn-ddirprwy hyfforddwr i dîm rygbi Cymru, Clive Griffiths, yn gwella yn yr ysbyty ar ôl cael trawiad ar y galon ddiwedd yr wythnos ddiwetha’.

Yn ôl ei glwb rygbi presennol, Doncaster Knights, fe gafodd y gŵr 64 oed o Gasllwchwr ei daro’n wael tra’r oedd yn rhedeg nos Wener (Medi 7).

“Fe all Clwb Rygbi Doncaster (Doncaster Knights) gadarnhau erbyn hyn fod ein cyfarwyddwr rygbi, Clive Griffiths, wedi cael trawiad ar y galon tra oedd yn rhedeg nos Wener,” meddai datganiad ar ran y clwb.

“Mae ar hyn o bryd yn cael profion yn Ysbyty Brenhinol Doncaster, ac mae disgwyl iddo gael adferiad llawn.”

Gyrfa

Roedd Clive Griffiths yn ddirprwy hyfforddwr ar Gymru pan enillodd y crysau cochion y Gamp Lawn yn 2005.

Mae hefyd wedi bod yn hyfforddwr ar dîm Cymru yn rygbi’r gynghrair yn y gorffennol, yn ogystal â bod yng ngofal Croesgadwyr Gogledd Cymru.

Fel chwaraewr, fe wnaeth un ymddangosiad yng nghrys coch Cymru ddiwedd yr 1970au, a bu’n chwarae i glybiau Llanelli, St Helens a Salford.