Fe fydd tîm rygbi Cymru yn chwarae dwy gêm yn erbyn Lloegr, wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd 2019.

Fe fyddan nhw’n chwarae yn Twickenham ar Awst 11, ac yna’n chwarae gêm gartref yng Nghaerdydd ar Awst 17 y flwyddyn nesaf.

Hefyd, bydd Cymru yn chwarae yn erbyn Iwerddon dwywaith, gydag un gêm yn cael ei chynnal yn Stadiwm y Principality ar Awst 31, ac un arall yn ninas Dulyn ar Fedi 7.

Yn ôl Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, mae’r gemau’n rhan “bwysig” o’u cynlluniau i baratoi ar gyfer y gystadleuaeth ryngwladol yn Japan flwyddyn nesa’.

“Dw i wrth fy modd â’r amserlen yr ydym wedi ei lunio ar gyfer haf nesa’, cyn Cwpan Rygbi’r Byd,” meddai Warren Gatland.

“Rydym wedi llunio cynllun paratoi manwl i’w ddilyn, ac mae’r gemau yma yn rhan bwysig iawn o’r cynllun hwnnw.”