Collodd y Scarlets o drwch blewyn yn erbyn Ulster yn Stadiwm Kingspan neithiwr wrth i John Cooney gicio cic gosb funud olaf i’r Gwyddelog i gipio’r fuddugoliaeth o 15-13.

Cafodd y ciciwr ei daclo heb y bêl gan y clo David Bulbring i ennill un cyfle olaf i ennill y gêm, wrth i’r Scarlets fynd i lawr i 14 dyn ar ôl i’r troseddwr weld cerdyn melyn.

Yn wir, John Cooney giciodd holl bwyntiau’r Gwyddelod mewn gêm agos drwyddi draw.

Daeth unig gais y gêm i Rhys Patchell yn yr hanner cyntaf wrth iddo drosi ei gais ei hun, a chiciodd yr eilydd Dan Jones ddwy gic gosb yn yr ail hanner.

Sgoriodd y Scarlets ar ôl chwe munud wrth i Rhys Patchell dorri trwy dacl John Cooney i groesi am gais, cyn trosi ei gais ei hun.

Ciciodd John Cooney gic gosb ar ôl 12 munud, ac fe ddaeth ail gic gosb bedair munud yn ddiweddarach yn dilyn tacl uchel ar Craig Gilroy.

Daeth cic gosb arall i Ulster ar ôl 20 munud, ac roedd y Gwyddelod ar y blaen o drwch blewyn, er i John Cooney fethu cyfle i roi ei dîm ymhellach ar y blaen ar yr hanner.

Croesodd Ken Owens yn gynnar yn yr ail hanner, ond penderfynodd y dyfarnwr fideo nad oedd ei gais yn ddilys. Ond daeth cic gosb i’r Scarlets yn fuan wedyn wrth i Dan Jones roi’r Scarlets ar y blaen o 10-9.

Ond roedd y Gwyddelod ar y blaen unwaith eto pan giciodd John Cooney gic gosb yn dilyn tacl anghyfreithlon gan Dan Jones.

Y Scarlets oedd ar y blaen unwaith eto wrth i Dan Jones gicio’r triphwynt i’w gwneud hi’n 13-12 gydag 19 munud yn weddill.

Gwelodd eilydd y Scarlets, Ed Kennedy gerdyn melyn ar ôl 67 munud ac wrth i’r Scarlets frwydro, methodd Ulster gic gosb ar ôl 76 munud cyn i John Cooney gicio’r gic fuddugol ychydig yn ddiweddarach.