Mae un o fawrion tîm rygbi’r Gweilch, Duncan Jones wedi’i ddyrchafu i weithio gyda thîm cynta’r rhanbarth.

Fe fydd yn symud o’i rôl fel hyfforddwr sgiliau’r Academi i gynorthwyo gyda sgrym y tîm cyntaf, ochr yn ochr â’r prif hyfforddwr Allen Clarke, a’r sgrym yn y Gwpan Geltaidd newydd.

Fe wnaeth y cyn-brop ymddeol o fod yn chwaraewr yn 2014-15 ar ôl chwarae mewn 223 o gemau i’r rhanbarth, a hynny ar ôl chwarae mewn 105 o gemau i Gastell-nedd. Dim ond Paul James ac Alun Wyn Jones sydd wedi chwarae mewn mwy o gemau i’r rhanbarth.

Roedd e’n aelod o’r garfan a enillodd y Gynghrair Geltaidd/PRO12 bedair gwaith.

Dywedodd Allen Clarke fod gan Duncan Jones “botensial enfawr” fel hyfforddwr.

‘Wedi cyffroi’n fawr’

Wrth ymateb i’w benodiad, dywedodd Duncan Jones, “Dw i wedi cyffroi’n fawr, yn amlwg, ac mae’n wych cael y cyfle i fod yn yr amgylchfyd hwn yn llawn amser.

“Ry’n ni’n falch iawn o’n datblygiad oddi mewn, ac mae hyn yn fy ngalluogi i barhau â’r gwaith dw i’n ei wneud gyda’r chwaraewyr oedran a’r Academi, yr holl ffordd drwodd i’r Gwpan Geltaidd ac o gwmpas y tîm cyntaf gan weithio gyda’r sgrym.”