Mae dirprwy hyfforddwr tîm rygbi Cymru, Shaun Edwards, wedi cael ei gadarnhau’n ymgynghorydd ar glwb rhanbarthol y Gweilch.

Bydd y gŵr o Wigan yn cyfuno ei swydd newydd gyda’i waith yn hyfforddwr amddiffyn y tîm cenedlaethol.

Mae disgwyl iddo ddechrau ar y gwaith ymgynghori yr wythnos hon, wrth iddo deithio gyda’r Gweilch i ganolfan hyfforddi yn Portiwgal.

Mae hynny er mwyn paratoi ar gyfer y gêm yn erbyn y Saraseniaid yn Llundain ddydd Iau nesa’.

“Edrych ymlaen”

Wrth dderbyn y swydd, mae Shaun Edwards yn dweud ei fod hwn yn “gyfle da” iddo gydweithio â chwaraewyr y mae eisoes yn eu nabod ar lefel Cymru.

“Mae’r Gweilch yn rhanbarth sydd â thipyn o hanes a balchder, ac o dan Allen [Clarke] maen nhw’n uchelgeisiol a dw i’n edrych ymlaen i fod yn rhan o hynny,” meddai.