Daeth cadarnhad fod yr wythwr rhyngwladol, Samu Manoa wedi ymuno â rhanbarth y Gleision.

Mae’n symud o Toulon yn Ffrainc, lle chwaraeodd e mewn mwy na 50 o gemau. Cyn hynny, roedd e’n chwarae i glwb Northampton, lle gwnaeth enw iddo’i hun ymhlith mawrion Ewrop, gan ennill llu o wobrau.

Yr Americanwr yw’r pedwerydd chwaraewr i ymuno â’r rhanbarth o dan y prif hyfforddwr newydd, John Mulvihill ar ôl Dmitri Arhip, Jason Harries a Rory Thornton (ar fenthyg).

Mae’n 6’7” ac yn pwyso 20 stôn.

‘Arwydd o fwriad’

Dywed prif hyfforddwr y Gleision, John Mulvihill fod arwyddo Samu Manoa yn “arwydd o fwriad” y rhanbarth i fod yn gystadleuol yn Ewrop. 

“Mae Samu yn ddyn mawr, corfforol a fydd yn cystadlu gyda Nick Williams am grys rhif wyth, ac mae’n dod â llu o brofiad i’n pac ni.”

Awgrymodd y byddai’r ddau wythwr yn rhannu’r cyfrifoldeb yn ystod y tymor oherwydd nifer y gemau sy’n cael eu chwarae.

Ychwanegodd Samu Manoa ei fod yn “edrych ymlaen yn fawr at y bennod nesaf”, a’i fod e “wedi clywed dim ond pethau da am Gleision Caerdydd, y ddinas a’r rhanbarth”.