Mae tîm rygbi Cymru wedi gorffen yn seithfed ym Mhencampwriaeth dan 20 y Byd yn dilyn buddugoliaeth o 34-17 dros yr Eidal yn Ffrainc.

Croesodd yr asgellwr Ryan Conbeer, y blaenasgellwr Dan Davis a’r canolwr Max Llewellyn i Gymru ac fe gawson nhw gais cosb wrth i Cai Evans gicio 15 o bwyntiau.

Daeth pwyntiau’r Eidal diolch i geisiau’r asgellwr Giovanni D’Onofrio, y bachwr o eilydd Niccolo Taddia a’r prop Guido Romano a throsiad Antonio Rizzi.

Roedd yr Eidalwyr i lawr i 12 dyn am ran o’r gêm ar ôl i dri chwaraewr gael eu hanfon i’r cell cosb.

Roedd y Cymry wedi gwneud chwe newid i’r tîm a gollodd o 39-15 yn erbyn yr Ariannin yn y rownd gyn-derfynol.