Mae prif hyfforddwr tîm rygbi Cymru, Warren Gatland wedi dweud mai’r daith ddiweddaraf yw’r orau ers iddo gael ei benodi, ar ôl i’w dîm guro’r Ariannin o 30-12 yn Santa Fe.

Dyma’r tro cyntaf i’r Cymry ennill cyfres yn erbyn yr Archentwyr ers 1999, ac maen nhw’n dychwelyd i Gymru’n drydydd ar restr detholion y byd uwchlaw Lloegr.

Ond fe ddaeth y gêm i ben mewn modd siomedig wrth i’r wythwr Ross Moriarty weld cerdyn coch yn symudiad ola’r ornest.

Manylion y gêm

Roedd Cymru’n teimlo’n hyderus ar drothwy’r gêm yn dilyn buddugoliaethau o 22-20 dros Dde Affrica yn Washington a 23-10 dros yr Ariannin yn y prawf cyntaf.

Ond roedd gwell i ddod, wrth i amddiffyn Cymru aros yn gryf gydol yr ail brawf wrth i ddisgyblaeth yr Ariannin eu gadael nhw i lawr.

Ciciodd Rhys Patchell bedair cic gosb yn yr hanner cyntaf, ac fe drosodd e gais yr asgellwr Josh Adams, oedd wedi croesi am gais rhyngwladol cyntaf.

Ac fe groesodd Hallam Amos yn yr ail hanner.

Ond fe ddaeth y gêm i ben gyda cherdyn coch i Ross Moriarty am dagu maswr yr Ariannin Nicolas Sanchez, oedd wedi arwain at ffrwgwd rhwng y ddau dîm.

Wrth i Gymru fynd i lawr i 14 dyn, croesodd Julian Montoya am gais cysur i orffen y gêm.

Ymateb Warren Gatland

Ar ddiwedd y gêm, dywedodd Warren Gatland: “Yn sicr, dyma’r daith sydd wedi fy mhlesio fwyaf gyda Chymru.

“Roedd llawer o bobol yn sinigaidd am y daith ac roedden nhw wedi ein hwfftio ni, ond ry’n ni wedi cyflawni popeth roedden ni am ei gyflawni.

“Ro’n i’n credu bod y bois yn rhagorol ac roedd y perfformiad yn dda iawn. Ry’n ni i fyny i drydydd yn y byd, sy’n fonws hyd yn oed yn fwy hefyd.

“Mae’r criw yma o chwaraewyr wedi bod yn rhagorol ar y cae ac oddi arno, a gyda’r ffordd wnaethon nhw baratoi ac ymarfer, dw i heb weld criw mor awchus ers sbel.

“Mae’n sefyllfa wych i ni fod ynddi.”

Ymddiheuriad gan Ross Moriarty

Ar ôl y gêm, fe wnaeth Ross Moriarty droi at wefan gymdeithasol Instagram i ymddiheuro am y weithred oedd wedi arwain at ei gerdyn coch.

“Sori am fy ymateb ar ddiwedd y gêm,” meddai. “Dw i’n falch iawn o’r garfan hon a’n perfformiadau ar y daith.”

Yn y cyfamser, mae prif hyfforddwr yr Ariannin, Daniel Hourcade wedi cyhoeddi y bydd yn gadael ei swydd ar ôl y gêm yn erbyn yr Alban yr wythnos nesaf.