Mae capten tîm rygbi Cymru, Cory Hill wedi rhybuddio’i dîm eu bod yn wynebu gêm gorfforol yn erbyn yr Ariannin yn San Juan heddiw.

Bydd Cymru’n ceisio adeiladu ar eu buddugoliaeth o 22-20 dros Dde Affrica yn Washington, wrth i’r prif hyfforddwr Warren Gatland gyhoeddi wyth newid i’r tîm.

Dydy’r Ariannin ddim wedi chwarae ers dechrau’r flwyddyn, ond mae pob aelod o’r garfan yn chwarae i glwb Jaguares.

Dyma gêm gyntaf Cory Hill yn gapten ar Gymru.

Dywedodd: “Fe fydd yn gorfforol iawn ac yn foment falch i fi’n bersonol wrth arwain y tîm. Mae gormod o bobol i ddiolch iddyn nhw am fy mod i wedi cyrraedd y fan hon.

“Ry’n ni wir yn edrych ymlaen at fynd allan yno. Mae’n lleoliad gwych, stadiwm bêl-droed hen ffasiwn gyda weiren bigog o amgylch y cae ac ry’n ni’n gwbod y bydd rhaid i ni gamu i fyny fel blaenwyr.

“Dw i’n sicr y bydd y dorf yn ein herbyn ni o’r funud gyntaf ac mae angen i ni sicrhau ein bod ni’n rhoi llwyfan i’r olwyr.

“Mae gyda ni ddigon o brofiad y tu ôl i’r sgrym ac mae hynny’n wych.”

Newidiadau

Fe fydd Cymru heb eu prop Wyn Jones, sydd wedi dychwelyd i Gymru ar ôl anafu ei goes wrth ymarfer. Daw Rob Evans i’r tîm yn ei le, ac mae Nicky Smith wedi’i ychwanegu at yr eilyddion.

Mae Josh Adams yn dychwelyd i’r asgell ar ôl cael ei neilltuo ar gyfer y gêm yn erbyn De Affrica oherwydd rheolau Undeb Rygbi Lloegr am ryddhau chwaraewyr y tu allan i’r ffenest ryngwladol.

Ar yr asgell arall mae George North, sy’n symud o safle’r canolwr. Hadleigh Parkes a Scott Williams fydd yn dechrau yn y canol.

Partner Cory Hill yn yr ail reng fydd Adam Beard, a daw Rob Evans i mewn i’r rheng flaen ynghyd ag Elliot Dee a Dillon Lewis.

Tîm yr Ariannin

Yn dechrau am y tro cyntaf i’r Ariannin mae’r asgellwr Bautista Delguy.

Y capten yw Agustin Creevy, ac mae Nicolas Sanchez wedi’i ddewis yn safle’r maswr.