Roedd yn benderfyniad dadleuol mynd i’r Unol Daleithiau, o bobman, i herio’r Springboks, ond fe lwyddodd Cymru i drechu De Affrica o ddau bwynt neithiwr (nos Sadwrn, Mehefin 2).

Hallam Amos oedd sgoriwr cais cynta’r gêm, cyn i’r mewnwr Tomos Williams sgorio’r ail o fewn munudau – a hynny ar ei ymddangosiad cyntaf yng nghrys coch Cymru.

Ebyn hanner amser, roedd Cymru ar y blaen 14-3.

Fe ddaeth cais cynnar i Dde Affrica yn yr ail hanner, ond fe lwyddodd troed Gareth Anscome i ychwanegu pwyntiau i Gymru gyda chic gosb.

Fe anfonwyd Owen Watkins o’r cae am gyfnod gyda cherdyn melyn am chwarae’r bêl yn fwriadol oddi ar y cae,  ac fe fu Cymru dan bwysau am y munudau hynny.

Ond mewn symudiad allweddol, fe gipiodd Tomos Williams y bêl gan Fde Affrica a’i chael i Ryan Elias – a’i gais e a sicrhaodd y fuddugoliaeth.