Mae’r Gweilch wedi penodi cyn-hyfforddwr gyda’r Dreigiau i fod yn rhan o’r tîm hyfforddi.

Bu Simon Church gyda’r tîm rygbi yng Nghasnewydd am bum mlynedd, ond fe fydd yn ymuno gyda’r rhanbarth yn Abertawe y mis nesaf.

Bydd yn gweithio gyda’r garfan gyntaf yn Llandarsi, yn rhan o’r tîm hyfforddi ar gryfder a chyflyru.

Dywed pennaeth y tîm cryfder a chyflyru gyda’r Gweilch, Alex Lawson, a benododd Simon Church pan oedd yn yr un rôl yn Rodney Parade, fod yr hyfforddwr newydd yn “gallu gwneud gwahaniaeth”.

“Mae e’n angerddol dros ddatblygu athletwyr. Mae e wastad yn ceisio gwella ei wybodaeth a’i berfformiad ei hun, drwy ei ymchwil ei hun ac o ddysgu wrth eraill.

“Mae’n gweithio’n galed ac mae ganddo feddwl creadigol a fydd yn cefnogi’r chwaraewyr wrth iddyn nhw ymdrechu am berfformiad elitaidd a gall wneud gwahaniaeth.”