Mae hyfforddwr cynorthwyol tîm rygbi Cymru, Shaun Edwards, yn awyddus i barhau yn ei rôl.

Dyna farn Rob Howley – ffigwr sy’n cynorthwyo tîm Cymru – wrth i adroddiadau awgrymu bod Shaun Edwards yn ystyried ymuno â thîm hyfforddi Lloegr.

Mae hyfforddwr amddiffyn Lloegr, Paul Gustard, eisoes wedi cyhoeddi ei fod yn camu o’r neilltu, ac mae sïon bellach ar led ynglŷn ag olynydd posib.

Sïon

“O wylio Shaun yn hyfforddi bore heddiw, mae’n glir ei fod wedi ymrwymo’n llwyr i gael y gorau mas o chwaraewyr [Cymru],” meddai Rob Howley.

“Dw i ddim wedi gweld unrhyw newid o ran ei agwedd. Mae pob hyfforddwr yn cael eu cysylltu â rolau [fel hyn]. Mae’n beth naturiol.

“Gan fod cymaint o swyddi bellach ar gael, mae yna fwy o sïon na’r arfer.”