Mae clwb rygbi rhanbarthol y Scarlets wedi cyhoeddi bod y chwaraewr rheng-ôl, John Barclay, wedi gadael y clwb yn sgil anaf.

Fe gafodd yr Albanwr 31 oed yr anaf i’w sawdl yn ystod y gêm yn erbyn Glasgow nos Wener, pan sicrhaodd y Scarlets fuddugoliaeth a lle yn rownd derfynol cystadleuaeth y Pro14.

Roedd John Barclay ar fin ymuno â chlwb Caeredin ar ddiwedd y tymor beth bynnag, ac fe fydd bellach yn dychwelyd i’r Alban er mwyn derbyn triniaeth.

Fe ymunodd â’r Scarlets bum mlynedd yn ôl, ac roedd yn aelod o’r tîm a enillodd y Pro12 y tymor diwethaf.

Fe ymddangosodd 107 o weithiau yng nghrys sgarlad y clwb, gan fod yn gapten ar y tîm ar sawl achlysur a sgorio cyfanswm o 14 cais.