Ulster 35–17 Gweilch

Yn y Cwpan Her y bydd y Gweilch yn chwarae eu rygbi Ewropeaidd y tymor nesaf wedi iddynt golli yn erbyn Ulster yn Stadiwm Kingspan, Belfast, brynhawn Sul.

Roedd gan y Cymry gyfle i gipio lle olaf y Guinness Pro14 yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop yn y gêm ail gyfle yn erbyn y Gwyddelod ond y tîm cartref aeth â hi yn gymharol gyfforddus yn y diwedd wedi hanner cyntaf agos.

Y Gweilch a ddechreuodd orau a doedd fawr o syndod gweld Alun Wyn Jones yn twrio drosodd am y cais agoriadol wedi chwarter awr ar ôl sgarmes symudol effeithiol.

Caeodd John Cooney’r bwlch gyda chic gosb i Ulster ac roedd y tîm cartref ar y blaen wrth droi diolch i gais Craig Gilroy, yr asgellwr yn tirio yn y gornel dde wedi cic ddeallus Luke Marshall, 8-7 y sgôr at hanner amser.

Dechreuodd yr ail hanner fel y gorffennodd y cyntaf, gyda Gilroy’n sgorio wrth y lluman cornel wedi cic gywir i’w lwybr, Jonny McPhillips gyda’r gwaith creu y tro hwn.

Dechreuodd y gêm lithro o afael y Gweilch pan sgoriodd Ulster drydydd cais ddeuddeg munud wedi’r egwyl, Kieran Tredwell yn hyrddio drosodd trwy dacl wan Sam Cross.

Rhoddodd Jeff Hassler lygedyn o obaith i’r Gweilch ar yr awr, yr asgellwr yn plymio drosodd ar ei ymddangosid olaf i’r rhanbarth wedi pas hir James Hook.

Pas hir arall gan Hook, serch hynny, a sicrhaodd y fuddugoliaeth i Ulster ddeuddeg munud yn ddiweddarach wrth i Jacob Stockdale ryng-gipio ar y llinell hanner rhedeg yr holl ffordd i groesi o dan y pyst.

Roedd digon o amser am gais cysur i Dan Biggar ar ei ymddangosiad olaf yntau dros y Gweilch ond rhy ychydig rhy hwyr a oedd hi wrth i’r Gwyddelod ennill yn gyfforddus, 35-17 y sgôr terfynol.

Tymor siomedig yn gorffen yn siomedig i’r Gweilch felly a’u gobeithion ar gyfer y tymor nesaf yn awr fydd efelychu camp y Gleision y tymor hwn gan greu argraff yn y Cwpan Her.

.

Ulster

Ceisiau: Craig Gilroy 35’, 42’, Kieran Tredwell 53’, Jacob Stockdale 73’

Trosiadau: John Cooney 43’, 54’, 74’

Ciciau Cosb: John Cooney 26’, 65’, 71’

.

Gweilch

Ceisiau: Alun Wyn Jones 16’, Jeff Hassler 61’, Dan Biggar 78’

Trosiad: Dan Biggar 17’