Glasgow 13–28 Scarlets

Mae’r Scarlets yn rownd derfynol y Guinness Pro14 ar ôl trechu Glasgow yn y rownd gynderfynol yn Scotstoun nos Wener.

Bydd Bois y Sosban yn amddiffyn eu teitl yn Nulyn y penwythnos nesaf wedi buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn yr Albanwyr.

Dechreuodd yr ymwelwyr o dde orllewin Cymru ar dân wrth i Rhys Patchell groesi am gais cyntaf y noson wedi dim ond pedwar munud, maswr y Scarlets yn rhy dda i amddiffyn Glasgow yng nghysgod y pyst.

Trosodd Patchell gais ei hun cyn i Finn Russell gau’r bwlch gyda chic gosb i’r tîm cartref.

Y Scarlets a gafodd y cais nesaf serch hynny, Gareth Davies yn croesi o dan y psyt wedi bylchiad gwreiddol Scott Williams.

Roedd y gêm fwy neu lai allan o afael Glasgow erbyn hanner amser diolch i drydydd cais y Cymry, Rob Evans yn sgorio y tro hwn wedi gwrthymosodiad da gan Johnny McNicholl, Steff Evans a Gareth Davies.

Roedd buddugoliaeth y Scarlets yn ddiogel yn gynnar yn yr ail hanner, gyda Nick Grigg yn y gell gosb i Glasgow fe groesodd Ken Owens gyda chymorth ei bac mewn sgarmes symudol effeithiol.

Fe wnaeth y tîm cartref daro nôl wedi hynny ond er i Johnny Gray a Nick Grigg groesi am gais yr un, fe ddaliodd y Scarlets eu gafael yn ddigon cyfforddus yn y diwedd.

Bydd Bois y Sosban yn awr yn wynebu Leinster neu Munster i geisio cadw eu gafael ar deitl y Pro14 yn Stadiwm Aviva yn Nulyn yr wythnos nesaf.

.

Glasgow

Ceisiau: Johnny Gray 60’, Nick Grigg 73’

Cic Gosb: Finn Russell 14’

Cerdyn Melyn: Nick Grigg 47’

.

Scarlets

Ceisiau: Rhys Patchell 4’, Gareth Davies 17’, Rob Evans 32’, Ken Owens 48’

Trosiadau: Rhys Patchell 5’, 18’, 33’, 49’