Mi fydd y chwaraewr rhyngwladol o Seland Newydd, Johnny McNicholl, yn dychwelyd i dîm y Scarlets ar gyfer y gêm gynderfynol yn y Pro14 heno.

Mae’r Scarlets yn gobeithio sicrhau buddugoliaeth oddi cartref yn erbyn Glasgow yn stadiwm Scotstoun, er mwyn cael y cyfle i chwarae yn y rownd derfynol yr wythnos nesaf.

Maen nhw wedi cyrraedd y rownd gynderfynol ar ôl iddyn nhw chwalu’r Cheetahs yn rownd y chwarteri bythefnos yn ôl, a hynny o 43 pwynt i 8.

Bydd Munster yn herio Leinster yn y gêm gynderfynol arall yfory yn Nulyn.

Ambell newid

 Nid yw prif hyfforddwr y Scarlets, Wayne Pivac, wedi gwneud llawer o newidiadau i’r tîm, gyda dim ond un newid i’r cefnwyr a dau i’r blaenwyr.

Gan nad yw Leigh Halfpenny ar gael i chwarae yn safle’r cefnwr oherwydd anaf i linyn y gâr, mae Johnny McNicholl, sydd newydd wella o anaf i’w ysgwydd, yn cymryd ei le.

O ran y blaenwyr wedyn, mae Aaron Shingler wedi ei ddewis i gychwyn yng nghrys rhif chwech, gyda Tadhg Beirne yn dychwelyd i safle’r ail reng i fod yn bartner i Steve Cummins.

“Rydyn ni’n mynd yno gyda’r meddylfryd bod angen i ni sicrhau’r perfformiad gorau er mwyn inni allu fod ar yr ochr gywir o’r llyfr,” meddai Wayne Pivac.

Y tîm:-

 Johnny McNicholl (15), Tom Prydie (14), Scott Williams (13), Hadleigh Parkes (12), Steff Evans (11), Rhys Parchell (10), Gareth Davies (9), Rob Evans (1), Ken Owens (2), Samson Lee (3), Tadhg Beirne (4), Steve Cummins (5), Aaron Shingler (6), James Davies (7), John Barclay (8).

Ar y fainc:-

 Ryan Elias, Wyn Jones, Werner Kruger, Lewis Rawlins, Will Boyde, Jonathan Evans, Dan Jones, Steff Hughes.

Mi fydd y gêm yn cael ei darlledu yn fyw ar y teledu ar BBC Two Wales, ac ar y radio ar BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru, gyda’r gic gyntaf am 7.45.