Ni fydd y chwaraewr rygbi rhyngwladol, Leigh Halfpenny, ar gael i chwarae i’r Scarlets yn rownd gynderfynol y Pro14 ddiwedd yr wythnos, ar ôl iddo dderbyn anaf i linyn y gar.

Roedd disgwyl i’r cefnwr 29 oed chwarae yn erbyn Glasgow ddydd Gwener yma (Mai 18), ond mae ei anaf diweddara’ yn golygu bod rhaid iddo dynnu ei enw o’r garfan.

Ond mae’r Scarlets wedi cyhoeddi bod cefnwr arall, sef Johnny McNicholl, newydd wella o anaf i’w ysgwydd, a’r gêm dydd Gwener fydd ei ymddangosiad cyntaf yng nghrys y clwb rhanbarthol ers mis Chwefror.

Yn ôl prif hyfforddwr y Scarlets, Wayne Pivac, mae’n gobeithio y bydd Leigh Halfpenny ar gael i chwarae erbyn rownd derfynol y gystadleuaeth, pe bawn nhw’n llwyddo i ennill y gêm yn erbyn Glasgow.