Mae cyn-chwaraewr rygbi Pen-y-bont, Cymru a’r Llewod, Gareth Williams wedi marw’n 63 oed.

Fe fu’n dioddef o gyflwr niwrolegol prin ers 2012.

Enillodd e bum cap dros Gymru rhwng 1980 a 1982, ac fe deithiodd e gyda’r Llewod i Dde Affrica yn 1980.

Dywedodd Clwb Rygbi Pen-y-bont ei fod e’n un o’u “hoelion wyth”, ac yntau’n chwarae yn y rheng ôl. Roedd ei frawd, Owain wedi chwarae i Ben-y-bont, Caerdydd a Chymru.

Roedd e’n aelod o’r tîm gododd Gwpan Cymru ddwy waith wrth iddyn nhw gyrraedd y rownd derfynol bedair gwaith yn olynol rhwng 1979 a 1982.