Mae capten tîm rygbi’r gynghrair Cymru wedi cyhoeddi na fydd yn chwarae gemau rhyngwladol mwyach.

Mi wnaeth Craig Kopczak, 31, arwain Cymru 13 o weithiau ar ôl cael ei benodi yn 2012, ac mae ef ymhlith y Cymry sydd wedi’u capio fwyaf – mae ganddo 22 cap.

Ef oedd wrth y llyw pan wnaeth Cymru ennill y Pencampwriaethau Ewropeaidd yn 2015, ac mi roedd yn gapten yng Nghwpan y Byd 2013 a 2017.

Trosglwyddo

“Yn anffodus, mae’n bryd i mi ymddeol o rygbi’r gynghrair ryngwladol, a chanolbwyntio ar rygbi clwb gyda Salford,” meddai.

“Bydd hyn yn rhoi cyfle i’r genhedlaeth nesa’ gymryd y llyw, ac wynebu Cwpan y Byd 2021 … Bydd Rygbi’r Gynghrair Cymru bob tro yn agos i fy nghalon.”