Mae Undeb Rygbi Cymru wedi enwi dau chwaraewr fydd yn capteinio Cymru yn ystod eu taith yn yr Ariannin.

Bydd Cory Hill ac Ellis Jenkins yn arwain y tîm yn ystod y gemau yma, yn ogystal â gêm brawf yn erbyn De Affrica yn yr Unol Daleithiau fis nesa’. Fe fyddan nhw’n olynu Alun Wyn Jones.

O’r garfan 31 dyn fydd yn ymuno ar y teithiau yma, dim ond dau – George North a Ross Moriarty – chwaraeodd â’r Llewod dros yr haf.

A dyw un chwaraewr -mewnwr Gleision Caerdydd, Tomos Williams – ddim wedi ennill cap eto.

Bydd Cymru yn wynebu De Affrica ar Fehefin 2, cyn teithio i Dde America i fynd benben â’r Arianwyr ar Fehefin 9 a Mehefin 16.

“Hogi”

“Mae’r haf yn gyfle gwych i’r garfan hogi’u crefft ac i brofi gemau prawf,” meddai Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland.

“Rydym wedi dewis cael carfan â 31 o chwaraewyr, fel bod chwaraewyr yn medru treulio gymaint o amser ag sy’n bosib ar y cae.”