Scarlets 43–8 Cheetahs

Mae Scarlets yn rowng gynderfynol y Guinness Pro14 ar ôl rhoi ’walad i’r Cheetahs o Dde Affrica yn y rownd go-gynderfynol nos Sadwrn.

Sgoriodd y tîm cartref 6 cais mewn buddugoliaeth gyfforddus ar Barc y Scarlets i sicrhau gêm yn erbyn Glasgow yn y pedwar olaf.

Decheruodd Bois y Sosban ar dân gyda Steff Evans yn croesi yn y chweched munud wedi i’r Cheetahs golli’r meddiant ar dafliad eu hunain mewn lein bum medr.

Ychwanegodd Leigh Halfpenny drosiad a chic gosb cyn croesi am ail gais ei dîm wedi traed a dwylo da Hadleigh Parkes.

Daeth uchafbwynt y gêm dri munud cyn yr egwyl pan groesodd Evans am ei ail gais o’r noson, ymdrech unigol wych. 24-3 y sgôr wrth droi.

Dechreuodd yr ail hanner fel y gorffennodd y cyntaf, gyda’r Scarlets yn sgorio cais, Tom Prydie yn tirio’r tro yma wedi dadlwythiad gwych gan Scott Williams ar ei ymddangosiad cartref olaf.

Roedd cais yr un i James Davies a Jonathan Evans wrth i’r fuddugoliaeth droi’n grasfa, a chais cysur yn unig a oedd ymdrech hwyr Clayton Bloometjies i’r ymwelwyr yn y munudau olaf, chwaraewr sydd yn symud i Lanelli ar ddiwedd y tymor.

Ymlaen i Glasgow ar gyfer y rownd gynderfynol felly, gyda’r enillwyr i wynebu Munster neu Leinster yn y ffeinal.

.

Scarlets

Ceisiau: Steff Evans 6’, 37’, Leigh Halfpenny 17’, Tom Prydie 45’, James Davies 55’

Trosiadau: Leigh Halfpenny 7’, 18’, Rhys Patchell 38’, 45’, 57’

Cic Gosb: Leigh Halfpenny 16’

Cerdyn Melyn: Rhys Patchell 80’

.

Cheetahs

Cais: Clayton Bloometjies 76’

Cic Gosb: Johan Goosen 22’