Mae Jon Ellis, prif hyfforddwr clwb rygbi’r gynghrair y West Wales Raiders yn Llanelli, wedi cael ei ddiswyddo dridiau ar ôl i’r clwb golli yn erbyn yr York City Knights o 144-0.

Mae rheolwyr y clwb bellach wedi penodi Phil Carleton yn hyfforddwr dros dro, er gwaetha’r ffaith iddo gamu i lawr o’r swydd y llynedd.

Yn ôl Cadeirydd yr West Wales Radiers, roedd diswyddo Jon Ellis yn “benderfyniad anodd” iddo ef a’r bwrdd rheoli.

“Mae Jon wedi bod yn un o hoelion wyth y clwb ac wedi ei helpu i’w dyfu ers iddo gychwyn ym Mynydd-y-garreg. Ond mae lle ydyn ni nawr, a lle ydyn ni angen fod, filltiroedd i ffwrdd oddi wrth ei gilydd…

“Mae’n rhaid i ni newid y diwylliant sy’n rhan o rygbi’r gynghrair yng Nghymru, ac i wneud hynny mae’n rhaid i ni edrych ar rywun sy’n gallu rheoli chwaraewyr a’u hyfforddi.”