Mae rhanbarth rygbi Dreigiau Gwent wedi arwyddo dau chwaraewr o’r gogledd.

Daeth cadarnhad fod y canolwr Tiaan Loots a’r maswr Jacob Botica ar eu ffordd i Went ar ôl tymor llwyddiannus yng nghrys Rygbi Gogledd Cymru.

Cafodd Jacob Botica – mab seren Llanelli a Seland Newydd, Frano – ei enwi’n Chwaraewr y Flwyddyn Uwch Gynghrair Principality wrth i’w dîm godi Cwpan Undeb Rygbi Cymru a chyrraedd y gemau ail gyfle ar ddiwedd y tymor diwethaf.

Dywedodd Jacob Botica fod cael y cyfle i gynrychioli’r Dreigiau’n “freuddwyd”, a’i fod yn “ddiolchgar am y cyfle”.

Ychwanegodd Tiaan Loots ei fod yn “benderfynol o gymryd y cyfle gyda’r Dreigiau”.

‘Talent ac ysgogiad’

Wrth gyhoeddi’r ddau chwaraewr newydd, dywedodd Prif Hyfforddwr y Dreigiau, Bernard Jackman: “Rydym wedi bod yn dilyn Jacob a Tiaan ill dau ers mis Medi ac maen nhw wedi creu argraff arnon ni bob wythnos yn Uwch Gynghrair Principality.

“Maen nhw, ill dau, wedi elwa o’r drefn hyfforddi a’r awyrgylch gwych yn Rygbi Gogledd Cymru ac rydym yn teimlo bod ganddyn nhw’r dalent a’r ysgogiad i’n helpu ni i dyfu fel rhanbarth dros y blynyddoedd i ddod.”