Mae’r chwaraewr rygbi rhyngwladol, Tyler Morgan, wedi arwyddo cytundeb dwy flynedd newydd â chlwb rhanbarthol y Dreigiau.

Fe ymddangosodd y cefnwr 22 oed yng nghrys y clwb am y tro cyntaf yn 2013, ac mae wedi gwneud 61 ymddangosiad ers hynny.

Cyn hynny, bu’n rhan o Academi’r Dreigiau ar gyfer chwaraewyr ifanc, a bu’n chwarae i dîm Cymru dan 20 oed wyth o weithiau.

Yn 2015, fe gafodd ei ddewis ar gyfer carfan Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, gan wneud ei ymddangosiad cyntaf yn erbyn Iwerddon fis Awst y flwyddyn honno.

Eisiau “creu hanes”

Wrth arwyddo ei gytundeb newydd, mae Tyler Morgan yn dweud ei fod wedi aros gyda’r Dreigiau oherwydd ei fod yn “awyddus iawn i greu hanes” â’i rhanbarth lleol.

“Dw i’n hyderus bod dyfodol y Dreigiau yn un disglair,” meddai. “Mae’r rhanbarth wedi cael ei droi ar ei ben y flwyddyn yma, ond nawr ry’n ni’n mynd i’r un cyfeiriad gyda’r un uchelgais.

“Fy nod personol i yw gwella fy chwarae gyda’r Dreigiau, i aros yn ddianaf, ac i helpu i wneud y tîm hwn yn llwyddiant.

“Mae Cymru o hyd yn mynd i fod yn brif uchelgais, ond mae hynny dim ond yn dod gyda llwyddiant ar lefel ranbarthol.”