Bydd dwy gêm rygbi fawr yn cael eu chwarae yng Nghaerdydd yfory ar ddiwrnod sydd wedi ei fedyddio a’i frandio yn Ddydd y Farn, wrth i’r timau rhanbarthol ddod ynghyd ar gyfer dwy ddarbi Gymreig ym Mhencampwriaeth y Pro 14.

Bydd y Scarlets, sydd ar frig y rhanbarthau yng Nghymru, yn mynd benben â’r Dreigiau toc wedi tri o’r gloch yn y Stadiwm Cenedlaethol, ac yna fe fydd Gleision Caerdydd yn erbyn y Gweilch i ddilyn am 5:35 y p’nawn ar yr un cae.

Rhwng y ddwy gêm, mae disgwyl y bydd 60,000 o gefnogwyr yn galw heibio’r stadiwm ar ryw bwynt yfory.

Scarlets

Mae prif hyfforddwr y Scarlets, Wayne Pivac, wedi enwi ei dîm, gyda 10 chwaraewr rhyngwladol yn y garfan.

Bydd Leigh Halfpenny a Rhys Patchell yn dychwelyd i’r garfan a Dan Jones yn eistedd ar y fainc, gyda’r canolwr Scott Williams yn arwain y tîm am y tro olaf mewn gêm ar Ddydd y Farn.

Yn ymuno â’r garfan, bydd Ryan Elias yn y rheng flaen, gyda Rob Evans a Samson Lee, gyda chapten y clwb, Ken Owens, yn symud i’r fainc.

Caerdydd dan ei sang

Mae disgwyl degau ar filoedd o bobol yn y brifddinas ar gyfer y ddwy gêm, gyda’r ffyrdd yng nghanol y ddinas yn cau o 12:30 tan 8:30 yr hwyr.

Mae Trenau Arriva Cymru wedi rhybuddio hefyd bod disgwyl i drenau rhwng Caerdydd a’r gorllewin a Chaerdydd a’r Cymoedd fod yn brysur iawn.

Mae BBC One Wales yn dangos gêm y Scarlets a’r Dreigiau a bydd gêm y Gleision a’r Gweilch ar S4C.