Mae’r Gwyddel, Allen Clarke, wedi’i benodi’n brif hyfforddwr parhaol y Gweilch ar ôl tri mis llwyddiannus fel prif hyfforddwr dros dro.

Dywedodd ei bod yn “anrhydedd” cael ei benodi ar ôl ymuno â’r rhanbarth haf diwethaf fel hyfforddwr y blaenwyr.

Cafodd ei benodi’n brif hyfforddwr dros dro ym mis Ionawr pan gafodd Steve Tandy ei ddiswyddo.

Gyrfa

Chwaraeodd Allen Clarke i dîm Northampton fel bachwr dros gant o weithiau, gan ennill wyth o gapiau dros ei wlad. Fe chwaraeodd i ranbarth Ulster gan fynd ymlaen i hyfforddi gyda nhw wedyn, a sefydlu Academi’r rhanbarth.

Aeth ymlaen i fod yn is-hyfforddwr y rhanbarth, gan ennill y Gynghrair Geltaidd yn 2005/06 wrth guro’r Gweilch ar ddiwrnod ola’r tymor.

Roedd yn aelod allweddol o dîm Ulster wrth iddyn nhw gipio tlws Cwpan Heineken yn 1999.

Fe fu hefyd yn Rheolwr Perfformiad Uwch Undeb Rygbi Iwerddon, cyn dychwelyd i Ulster yn 2012 i fod yn gyfrifol am yr Academi. Ar yr un pryd, roedd yn hyfforddi blaenwyr y rhanbarth.

Mae hefyd wedi hyfforddi timau ‘A’ a dan 20 Iwerddon.

Ar ôl cael ei benodi gan y Gweilch, dywedodd nad oedd wedi “rhagweld y sefyllfa yma’n codi”.

Ond ychwanegodd ei fod yn “ostyngedig” a’i bod yn “anrhydedd” cael derbyn y swydd yn barhaol.

“Mae’r her yn fy ysgogi’n fawr iawn a dw i’n edrych ymlaen at gydweithio gyda’r tîm hyfforddi a rheoli i greu awyrgylch sy’n rhoi’r cyfle i unigolion fod yn llewyrchus ac i ni, fel tîm, gael gwireddu ein huchelgais o chwarae math o rygbi sy’n cyffroi’r chwaraewyr a’r cefnogwyr.”