Mae’r cefnwr, Pat Howard, wedi cyhoeddi y bydd yn gadael clwb rygbi rhanbarthol y Dreigiau ddiwedd y tymor.

Mae’r gŵr 26 oed o Dde Affrica wedi ymddangos 35 o weithiau yng nghrys y clwb ers iddo ymuno ym mis Medi 2016, gan sgorio chwe chais.

Fe fydd yn ymadael â’r clwb yng Ngwent i ymuno ag Ealing Trailfinders y tymor nesaf.

Me prif hyfforddwr y Dreigiau, Bernard Jackman, wedi diolch i Pat Howard am ei “ymdrechion” yng nghrys y clwb, ac mae’n “dymuno’n dda” iddo ar gyfer y dyfodol.