Mae Ulster yn gobeithio sicrhau buddugoliaeth yn erbyn y Gweilch heno (dydd Gwener, Ebrill 13), yn dilyn eu llwyddiant yn erbyn Caeredin y penwythnos diwethaf.

Mae Ulster ar hyn o bryd wyth pwynt y tu ôl i Gaeredin yn nhabl B ym Mhencampwriaeth y Pro14, gydag Ulster yn y bedwaredd safle ar 51 o bwyntiau, a Chaeredin yn drydydd gyda 59.

Yn nhabl 1 wedyn, mae’r Gweilch yn bumed gyda 40 o bwyntiau, a hynny y tu ôl i’r Gleision sydd ar 48.

Newidiadau

 Mae’r ddau glwb wedi newid eu carfannau ar gyfer y gêm heno, a fydd yn cael ei chynnal yn stadiwm Kingspan ym Melfast.

O ran y Gweilch, fe fydd y capten Alun Wyn Jones yn symud o safle’r clo i’r blaenasgellwr, tra bo Owen Watkin yn symud i’r canol, Adam Beard i’r clo, a  Guy Mercer i’r fainc.

Mae Ulster wedyn wedi gwneud pedwar newid, gyda Callum Black a Rosse Kane yn symud i’r rheng flaen, tra bo’r clo Kieran Treadwell a’r cefnwr Sean Reidy yn dychwelyd.

“Her”

 Yn ôl hyfforddwr dros dro y Gweilch, Allan Clarke, mae heno’n gêm bwysig i’r “ddau dîm”.

“Mae’n mynd i fod yn anodd,” meddai, “fe fydd yna dorf frwdfrydig yno fel sydd arfer bod, ac rydym yn parchu’r her sydd o’n blaenau.”

Y Gweilch

 Y tîm:

Dan Evans, Jeff Hassler, Kieron Fonotia, Owen Watkin, Hanno Dirksen, Dan Biggar, Tom Habberfield, Nicky Smith, Scott Otten, Dimitri Arhip, Bradley Davies, Adam Beard, Alun Wyn Jones (Capten), Sam Cross, James King.

Ar y fainc:

Ifan Phillips, Rhodri Phillips, Rhodri Jones, Ma’afu Fia, Lloyd Ashley, Guy Mercer, Mathew Aubrey, Sam Davies, James Hook.

Ulster

 Y tîm:

Charles Piutau, Louis Ludik, Darren Cave, Stuart McCloskey, Jacob Stockdale, Johnny McPhillips, John Cooney. Callum Black, Rory Best (Capten), Ross Kane, Kieran Treadwell, Iain Henderson, Mathew Rea, Jean Deysel, Sean Reidy

Ar y fainc:

Rob Herring, Andrew Warwick, Tom O’Toole, Alan O’Connor, Nick Timoney, David Sanahan, Luke Marshall, Tommy Bowe

Mi fydd y gêm yn cychwyn toc wedi 7:30 yr hwyr, ac yn cael ei darlledu ar BBC 2.