Mae’r Gweilch wedi arwyddo’r prop Tom Botha o’r Cheetahs yn Ne Affrica.

Bydd yn ymuno â’r rhanbarth ar ddiwedd y tymor ar ôl gwrthod cynigion nifer o glybiau eraill.

Mae’n ymuno â thriawd o chwaraewyr newydd eraill – y Cymry Aled Davies a Scott Williams, a Lesley Klim o Namibia.

Mae gan Botha, 27, lu o brofiad yn y Super Rugby a’r gêm genedlaethol yn Ne Affrica a Ffrainc.

Dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at chwarae yn y PRO14 yng Nghymru “gan ei bod yn fwy seiliedig ar sgrymiau, sgarmesi symudol y blaenwyr ac ati”, a’i fod e wedi siarad â nifer o’i gydwladwyr sydd wedi chwarae i’r Gweilch yn y gorffennol cyn penderfynu symud i Gymru.

Mae e wedi chwarae mewn 16 allan o 19 o gemau i’r Cheetahs yn y PRO14 y tymor hwn, gan gynnwys y fuddugoliaeth dros y Gweilch o 44-25 yn Ne Affrica ym mis Medi.

‘Cyffrous’

Dywedodd Rheolwr Cyffredinol Rygbi’r Gweilch, Dan Griffiths fod y rhanbarth “wedi cyffroi” o arwyddo Tom Botha.

“Mae ganddo fe lu o brofiad o chwarae a sgrymio yn erbyn gwrthwynebwyr o bron bob gwlad rygbi fawr.”

Dywedodd fod ganddo botensial i fod yn “gryn ased” i’r rhanbarth.

Mae 11 o chwaraewyr presennol y Gweilch wedi ymestyn eu cytundebau’r tymor hwn.