Fe fydd y Scarlets yn teithio i Ddulyn i herio Leinster yn rownd gyn-derfynol Cwpan Pencampwyr Ewrop.

Curodd y Gwyddelod y Saraseniaid o 30-19 yn Stadiwm Aviva y prynhawn yma.

Fe fydd dyddiad ac amser y gêm gyn-derfynol yn cael eu cadarnhau dros y dyddiau nesaf.

Sicrhaodd y Cymry eu lle ymhlith y pedwar olaf am y tro cyntaf ers 2007 gyda buddugoliaeth o 29-17.