Caeredin 6–20 Gleision
Mae’r Gleision yn rownd gynderfynol Cwpan Her Ewrop ar ôl trechu Caeredin yn y rownd go-gynderfynol ym Murrayfield nos Sadwrn.
Sgoriodd Ellis Jenkins a Blaine Scully gais yr un yn yr hanner cyntaf a chafwyd ymdrech amddiffynnol gref yn yr ail hanner wrth i’r Gleision efelychu camp y Scarlets yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop trwy gynrychioli Cymru yn y pedwar olaf.
Cafwyd chwarter agoriadol digon diflas a bu rhaid aros tan hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf am bwyntiau cyntaf y gêm, cic gosb o droed y maswr cartref, Jaco Van Der Walt.
Cafwyd cyfnod da gan y Gleision wedi hynny ac fe darodd yr ymwelwyr o Gymru yn ôl gyda chais bron yn syth. Mesurodd Jarrod Evans ei gic letraws yn gywir a gwaneth Ellis Jenkins yn wych i gasglu a thirio’r bêl wrth lithro drosodd yn y gornel dde.
Daeth ail gais y Gleision ddeg munud yn ddiweddarach wrth i Blaine Scully sgorio yn yr un gornel. Casglodd Ray Lee-Lo gic Gareth Asncombe cyn dadlwytho i’r Americanwr i sgorio.
Ychwanegodd Evans y trosiad i ymestyn y fantais i un pwynt ar ddeg ac felly yr arhosodd hi tan yr egwyl, 3-14 y sgôr.
Bu rhaid i’r Cymry wneud tipyn o amddiffyn yn yr ail hanner ond fe wnaethant hynny’n effeithiol dros ben gan gyfyngu Caeredin i dri phwynt yn unig, cic gosb arall gan Van Der Walt.
Fe lwyddodd Evans gyda dwy gic gosb i’r Gleision hefyd i sicrhau bod bwlch cyfforddus rhwng y ddau dîm ar y diwedd, 6-20 y sgôr terfynol a’r tîm o brifddinas Cymru yn rownd gynderfynol y Cwpan Her.
.
Caeredin
Ciciau Cosb: Jaco Van Der Walt 19’, 49’
.
Gleision
Ceisiau: Ellis Jenkins 21’, Blaine Scully 30’
Trosiadau: Jarrod Evans 23’, 32’
Ciciau Cosb: Jarrod Evans 51’, 66’
Cerdyn Melyn: Ellis Jenkins 67’