Scarlets 29–17 La Rochelle

Mae’r Scarlets ym mhedwar olaf Cwpan Pencampwyr Ewrop ar ôl trechu La Rochelle yn y rownd go-gynderfynol ar Barc y Scarlets nos Wener.

Roedd hi’n gêm agos am gyfnodau hir ond Bois y Sosban aeth â hi yn y diwedd diolch i gais hwyr Scott Williams.

Hanner Cyntaf

Er i Leigh Halfpenny gicio’r Scarlets ar y blaen, yr ymwelwyr o orllewin Ffrainc a sgoriodd gais cyntaf y gêm wedi naw munud. Adlamodd cic Jeremy Sinzelle’n garedig i Romain Sazy a barnodd y dyfarnwr fideo fod y clo wedi tirio.

Tyfodd y tîm cartref i’r gêm yn raddol wedi hynny ac er nad oeddynt eu gorau, roedd diffyg disgyblaeth y gwrthwynebwyr yn rhoi digon o gyfleoedd i Halfpenny anelu at y pyst ac fe roddodd cefnwr Cymru ei dîm ar y blaen wrth droi, 12-10 y sgôr.

Ail Hanner

Cafodd y Ffrancwyr gyfnodau da ar ddechrau’r ail hanner hefyd ond y Scarlets a gafodd sgôr cyntaf, tri phwynt o droed Halfpenny yn ymestyn y fantais i bum pwynt.

Bois y Sosban a sgoriodd y cais cyntaf wedi’r egwyl hefyd, sgarmes symudol hynod effeithiol yn ennill tir a phas hir Dan Jones yn arwain at gais i Rhys Patchell yn y gornel chwith.

Roedd y penderfyniad i symud James Davies i’r asgell wedi anaf Paul Asquith yn gynnar yn y gêm yn un dadleuol a dweud y lleiaf, ac, ar adegau, yn atgoffa rhywun o ymddangosiad enwog o aflwyddiannus Mauro Bergamasco fel mewnwr i’r Eidal.

Wedi dweud hynny, gwaith da gan y blaenasgellwr allan o’i safle a arweiniodd at y cais holl bwysig bum munud o’r diwedd wrth i waith da “Cubby Boi” ryddhau Scott Williams at y dde.

Roedd y gêm yn berffaith ddiogel wedi hynny a chais cysur yn unig a oedd ymdrech hyd-y-cae hwyr yr eilydd, Pierre Boudenhent.

Ymlaen â’r Cymry i’r pedwar olaf felly.

.

Scarlets

Ceisiau: Rhys Patchell 61’, Scott Williams 76’

Trosiadau: Leigh Halfpenny 63’, 77’

Ciciau Cosb: Leigh Halfpenny 5’, 12’, 19’, 26’, 46’

Cerdyn Melyn: Will Boyde 70’

.

La Rochelle

Ceisiau: Romain Sazy 9’, Pierre Bourgarit 80’

Trosiadau: Alexis Bales 10’, Benjamin Nobles 80’

Cic Gosb: Alexis Bales