Mae’r Cymro Adam Jones wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o’r cae rygbi ar ddiwedd y tymor.

Enillodd e 95 o gapiau dros Gymru, ac fe gafodd ei ddewis i deithio gyda’r Llewod yn 2009 a 2013.

Bydd e’n aros gyda Harlequins fel aelod o’r tîm hyfforddi y tymor nesaf.

Mewn datganiad, dywedodd y prop 37 oed ei fod e’n ymddeol “gyda thristwch ac oedran!” ar ddiwedd “gyrfa anhygoel… na allwn i ddim ond breuddwydio amdani”.

Dywedodd y byddai’n ymddeol “ag atgofion anhygoel, a digon o rai nad ydyn nhw’n anhygoel”.

Diolch arbennig

Fe ddiolchodd i’w rieni, Alwyn a’r ddiweddar June, am eu cefnogaeth “yn ystod taith anhygoel”.

Dywedodd eu bod nhw “wedi teithio’r byd yn fy ngwylio i’n chwarae”. Fe ddiolchodd hefyd i’w wraig Nicole a’u merch Isla am “eu cariad a chefnogaeth ddiwyro”.

‘Balch dros ben’

Yn ystod ei yrfa, fe gynrychiolodd e Gastell-nedd, y Gweilch, y Gleision, Harlequins, y Barbariaid, Cymru a’r Llewod.

Wrth restru’r hyn a gyflawnodd, fe ddywedodd ei fod e wedi ennill dros gant o gapiau rhyngwladol (i Gymru a’r Llewod gyda’i gilydd), wedi ennill cyfres gyda’r Llewod, tair Camp Lawn, wedi’i enwi’n seren y gêm sawl gwaith a’i fod e wedi sgorio chwe chais.

Ond dywedodd hefyd fod cynrychioli ei bentref, Abercraf “ymhlith yr amserau gorau”.