Munster 19–7 Scarlets

Colli fu hanes y Scarlets wrth i Muntser daro nôl i ennill y gêm Guinness Pro14 rhwng y ddau dîm ar Barc Thomond yn Limerick nos Sadwrn.

Aeth y Cymry ar y blaen gyda chais cynnar Aled Davies ond tyfodd y tîm cartref yn raddol i’r gêm gan ei hennill gyda dau gais yn yr ail hanner.

Dechreuodd y Scarlets ar dân ac roeddynt yn llawn haeddu mynd ar y blaen gyda chais Davies wedi saith munud, y mewnwr yn sgorio wedi bylchiad da Tom Williams a chefnogaeth James Davies, 0-7 wedi trosiad Rhys Patchell.

Daeth Munster yn fwyfwy i’r gêm wrth i’r hanner cyntaf fynd yn ei flaen ac fe ddaeth cais cyntaf i’r tîm cartref ddeuddeg munud cyn yr egwyl wrth i James Hart ganfod bwlch wrth fôn ryc ac ymestyn am y gwyngalch.

Methodd Ian Keatley’r trosiad felly roedd gan yr ymwelwyr o orllewin Cymru fantais fain wrth droi, 5-7.

Dechreuodd yr ail hanner fel y gorffennodd y cyntaf, gyda Muntser yn rheoli, a doedd dim llawer o syndod gweld Robin Copeland yn hyrddio drosodd yng nghysgod y pyst am ail gais ei dîm.

Roedd angen penderfyniad dadleuol iawn gan y dyfarnwr fideo i atal James Cronin rhag sgorio trydydd cais Munster chwarter awr o’r diwedd, ond fe ddaeth cais arall i’r tîm cartref yn y munudau olaf wrth i Alex Wooton oresgyn tacl Tom Varndell yn y gornel chwith i sicrhau buddugoliaeth i’w dîm ac amddifadu’r Scarlets o bwynt bonws.

Mae Bois y Sosban yn aros yn ail yn nhabl cyngres B er gwaethaf y golled ond mae eu gobeithion o orffen ar y brig bellach yn brinach.

.

Munster

Ceisiau: James Hart 28’, Robin Copeland 48’, Alex Wooton 78’

Trosiadau: Ian Keatley 49’, 79’

.

Scarlets

Ceisiau: Aled Davies 7’

Trosiadau: Rhys Patchell 8’