Dreigiau 17–29 Cheetahs

Parhau y mae tymor siomedig y Dreigiau yn y Guinness Pro14 wedi iddynt golli gartref yn erbyn y Cheetahs ar Rodney Parade nos Wener.

Sgoriodd yr ymwelwyr o Dde Affrica bedwar cais ail hanner mewn buddugoliaeth bwynt bonws.

Y Dreigiau a ddechreuodd y gêm orau ac roedd Sarel Pretorius yn meddwl ei fod wedi sgorio’r cais cyntaf cyn i Ashton Hewitt wneud hynny yn dilyn dadlwythiad destlus Hallam Amos wedi deuddeg munud.

Llwyddodd Arwel Robson gyda’r trosiad cyn ychwanegu cic gosb hefyd. Tri phwynt o droed Daniel Marais a oedd unig bwyntiau’r Cheetahs yn y deugain munud agoriadol, 10-3 y sgôr wrth droi.

Dechreuodd yr ymwelwyr yr ail hanner yn llawer gwell gan sgorio’n fwy neu lai yn syth o’r ail ddechrau, Clayton Blommetjies yn hollti trwy’r amddiffyn yn rhy rhwydd o lawer cyn i Sibhale Maxwane groesi o dany pyst.

Daeth ail gais yn fuan wedyn i’r maswr, Fred Zelinga, yn dilyn gwaith caib a rhaw gan y blaenwyr.

Roedd y tîm o Dde Affrica yn rheoli erbyn hyn a daeth cais arall toc wedi’r awr, ail i Maxwane a thrydydd i’w dîm wrth i’r asgellwr roi cwrs llwyddiannus i gic hir Marais.

Rhoddodd cais Elliot Dee y Dreigiau o fewn sgôr gyda naw munud yn weddill ond roedd y fuddugoliaeth a’r pwynt bonws yn ddiogel i’r Cheetahs yn fuan wedyn diolch i gais unigol da gan seren y gêm, Blommetjies, 17-29 y sgôr terfynol.

Mae’r Dreigiau’n aros yn chweched allan o saith yng nghyngres B ac mae hi’n bellach yn amhosib iddynt orffen y tymor yn uwch na hynny.

.

Dreigiau

Ceisiau: Ashton Hewitt 12’, Elliot Dee 71’

Trosiadau: Arwel Robson 12’, 71’

Cic Gosb: Arwel Robson 28’

.

Cheetahs

Ceisiau: Sibhale Maxwane 41’, 62’, Fred Zeilinga 49’, Clayton Blommetjies 73’

Trosiadau: Daniel Marais 41’, 49’, Fred Zeilinga 73’

Cic Gosb: Daniel Marais 19’