Bydd tîm rygbi merched Cymru a’r tîm dan 20 yn herio Ffrainc heno yng ngemau terfynol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Mae’r ddau dîm yn chwarae yn Stadiwm Zipworld ym Mae Colwyn – gyda gêm y menywod yn dechrau am chwech o’r gloch a’r dynion dan 20 oed yn chwarae am 8:15.

Bydd S4C yn darlledu’r ddwy gêm yn fyw.

Dyma fydd cap rhif 50 i’r prop <https://golwg360.cymru/chwaraeon/rygbi/515012-rhif-caryl-thomas-erbyn-ffrainc>, Caryl Thomas, fydd yn gwisgo’i chrys coch i wynebu Ffrainc, wythnos ar ôl i dîm y merched golli yn erbyn yr Eidal o 15 i 22.

Colli oedd hanes y tîm dan 20 yn erbyn yr Eidal hefyd, gyda sgôr derfynol o 7 i 18.