Colli o 22-15 oedd hanes tîm rygbi merched Cymru yn erbyn yr Eidal yn Stadiwm Principality heddiw, ond mae chwaraewraig newydd wedi dod i’r amlwg ar y llwyfan rhyngwladol.

Daeth y ganolwraig Alecs Donovan o Abertawe oddi ar y fainc ganol yr ail hanner yn lle Elinor Snowsill, a chreu argraff bron yn syth gyda’i rhediad cryf o ganol y cae wrth iddi lwyddo i osgoi sawl gwrthwynebydd.

Cyn y gêm, derbyniodd hi ei chap gan gapten dynion Cymru, Sam Warburton.

Roedd Cymru dan bwysau sylweddol am gyfnodau o’r gêm wrth i Mel Clay ac Alisha Butchers weld cerdyn melyn yr un.

Sgoriodd Isabella Locatelli gais ar ôl deg munud i roi’r Eidalwyr ar y blaen, a Michela Sillari yn trosi i’w gwneud hi’n 7-0.

Ond tarodd Cymru’n ôl gyda chic gosb gan Robyn Wilkins cyn i Butchers groesi am gais.

Ond tro’r Eidal oedd hi i sgorio nesa’ wrth i Maria Magatti groesi am gais cyn yr egwyl i roi’r ymwelwyr ar y blaen o 12-8.

Ymestyn eu mantais wnaeth yr Eidal ar ddechrau’r ail hanner wrth i Beatrice Rigoni groesi am gais i roi ei thîm ar y blaen o naw pwynt.

Sgoriodd Sioned Harries gais cyn i Robyn Wilkins gicio’r trosiad a chael a chael oedd hi am gyfnod cyn i Sillari groesi am gais yn yr eiliadau olaf.